Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Wednesday 2 November 2016

O Brofiad

Dwi'n dyn hanner cant oed ac mi ddechreuodd fy mhrofiadau iechyd meddwl pan oeddwn yn dair ar ddeg oed. Mi ges is fy medyddio yn David ond newidiais fy enw i Dafydd. Mi ges i addysg Gymraeg tan yn saith oed ac wedyn addysg gwpl Saesneg. Dwi'n beio'r profiad yma o gael fy llusgo o'm gwreiddiau Cymraeg a'r ffaith fod yr addysg mewn Ysgol Fonedd ar yr Afiechyd. Mi ges i fy 'breakdown' cyntaf pan yn 21 a rhodded y Seiciatrydd pryd hynny ddiagnosis o 'extreme sensitivity' i mi! Deunaw mlynedd wedyn mi es i  garchar yn yr Iseldiroedd oherwydd fy mod wedi dioddef o 'Drug Induced Psychosis'. Cannabis cryf roeddwn yn defnyddio i leddfi fy mhoen meddwl. Ers tair ar ddeg oed mi roeddwn yn dioddef o rywbeth maent nawr yn galw 'Pure O' sydd ar sbectrwm OCD. Intrusive thoughts neu feddyliau cas a milain roeddwn ddim yn gallu gwneud dim amdanyn nhw. Os roeddwn yn ymladd y meddyliau mi roedden nhw yn mynd yn waith. Ar ôl un ar hugain mi roeddwn yn yfed yn drwm ar y penwythnosau ac yn defnyddio cannabis i leddfi'r poen ond yn ddiarwybod i mi roedd y cannabis cryf yn Amsterdam wedi troi fi mewn i ryw fath o 'ticking time bomb'. Mi roedd y Seiciatrydd cyntaf yn iawn oherwydd fy mod yn tristau yn ofnadwy am ddigwyddiadau'r byd. Mi wnes i gwympo lawr i lefain pan ddigwyddodd trasiedi Lockerbie yn 1988. Yn 2001 gyda pawb arall sugnodd lluniau 9/11 mewn i'r isymwybod a fi'n ceisio dal lawr swydd fel athro yn Llundain. Wedyn pan ddaeth 7/7/2005 mi golles i'r plot yn llwyr. Mi roeddwn yn Amsterdam ar ôl gadael fy ngwaith ac yn ceisio dygymod gyda'r byd ar betws. Wnaeth y bomiau aeth off yn Llundain y diwrnod hwnnw tanio bomb afiechyd meddwl yn fy mhen. Dwi wedi sgrifennu llyfr a ddechreuodd off fel blog am yr hanes yn Saesneg ac mae o ar gael gan Chipmunka Publishing. Dwi'n Cymro Cymraeg sydd ddim wedi gweithio am ddegawd oherwydd dwi'n meddwl fod iechyd meddwl yn wleidyddol. Dwi'n argyhoeddedig erbyn hyn fod y ffordd rydym ni yn cael ein gorfodi byw ein bywydau fel rhyw fath o production lein mewn ffactori yn mynd i arwain at epidemic o afiechyd meddwl yn y dyfodol. Mae bywyd i mi wedi bod fel carchar oherwydd dwi ddim yn rhydd i fynegi fy marn, neu os dwi yn, dwi yn cael fy anwybyddu fel gwallgofddyn. Anhwylder Dau Begwn yw'r diagnosis mae'r byd Seiciatryddol wedi rhoi i mi erbyn hyn ond dwi yn tueddu cytuno gyda fy Seiciatrydd cyntaf. Dwi yn hogyn a dyn hynod sensitif mewn byd creulon ag ansensitif ac yn anffodus erbyn hyn dwi wedi caledi fy hun i fy amgylchiadau.  

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman