Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Saturday 6 May 2017

Dwi'n ddig Mary Ellen, dwi'n ddig!





Dwi'n ddig, dim fel y dug Caeredin wrth gwrs ond mae o yn ddyn digon dig ei hunan. Mae dicter ag anfodlonrwydd yn cwrso trwy fy ngwythiennau ag dwi am gymryd perchnogaeth o'r teimlad hollol naturiol yma. Rydym wedi cael ein hannog i guddio ein dicter. Dydy o ddim yn rhywbeth i ddangos yn gyhoeddus ond faint o bobol sydd yn ddyddiol ar fin berwi drosodd fel sosban fach yn berwi ar y tan neu sosban fawr yn berwi ar y llawr? Yn America mae o yn fis ymwybyddiaeth iechyd meddwl, yn y deyrnas ranedig gawn ni wythnos, ag yn ôl y son fydd S4C yn dangos rhaglenni am y pwnc. Ni fyddaf yn gweld yr un oherwydd dwi'n beio'r peiriant propaganda yma am achosi gymaint o anfodlonrwydd a dicter yn y byd. Y gobaith nol yn 1982 oedd fasa mwy o Gymraeg ar y cyfryngau yn annog mwy o bobol i siarad Cymraeg yn ei bywyd bob dydd ond yn anffodus efelychu'r diwylliant Eingl Americanaidd arwynebol mae o wedi gwneud. Oherwydd dwi ddim yn defnyddio meddyginiaeth i fy nghyflwr iechyd meddwl bellach mae fy nheulu annwyl wedi bod yn dyst i 'angry outbursts'. Dwi fel matchen chi! Chwythu fynni ar y pethau mwyaf dibwys ond dwi yn gweld o'n llesol. Dim iddyn nhw wrth gwrs, ond mae o allan o fy system yn syth yn lle mwydro fy mhen fel yn yr hen ddyddiau ac wedyn cymryd cyffuriau i dawelu beth sydd yn hollol naturiol. Dicter! Anger! A dwi'n fucking sweary angry ar hyn o bryd hefyd! Fy nymuniad fasa cerdded i lawr Great Darkgate Street neu Heol y Frenhines yn rhegi ar bobol. Mi wnes i hynny yn Amsterdam on ges i fy arestio am hwnna! "Not the done thing old boy to show your anger to the world! Keep your anger and frustration in house and take it out on your loved ones." Beth sydd yn digwydd yn y Deyrnas Gyfyngedig os ydych chi yn dangos emosiwn yn gyhoeddus fydd yr Heddlu yn cael ei galw. The Boys and Girls in Blue ydy'r first line of defence yn erbyn beth mae cymdeithas yn galw 'afiechyd meddwl'. Sut allith o fod yn afiechyd i fynegi eich rhwystredigaeth gyda'r faith fod eich iaith gynhenid yn cael ei lladd gan gôr defnydd o iaith ein cymdogion dros Glawdd Offa? Sut allith o fod yn afiechyd i weiddi a sgrechian yn erbyn cyfalafiaeth a phrofit a phres? Sut allith o fod yn afiechyd i gicio shit allan o hen fatras yn lle aelodau o'ch teulu sydd wedi carcharu chi mewn i straightjacket pobol neis neis Cymry Cymraeg. Beth oedd Punk ond sgrech yn erbyn parchusrwydd? Taswn ni ddim wedi methu fy exams a mynd off y rails faswn ni wedi hoffi bod yn blismon oherwydd fy mod i yn credu mewn bihafio eich hun ond na fo ar yr ochr arall ydw i rŵan, ar ochor arall y barricades fel petai. 
Tan iddo fo ddigwydd i chi'r bobol barchus Cymraeg 9-5 fyddwch chi ddim yn gwybod yn o iawn beth ydy 'afiechyd meddwl'. Fyddwch chi yn meddwl fod o'n digwydd i bobol eraill a dyna'r broblem i fi, fod o'n digwydd i bobol eraill a bod hwnna yn parhau'r stereotype ohonom ni a nhw. Pan fyddwch chi nesaf yn eich dagrau ac yn eich diod peidiwch byth a meddwl eich bod chi yn dioddef o afiechyd meddwl.  

No comments:

Post a Comment

Fruity old fruit bats

  Hello my fruity old fruit bats! That is a term of endearment by the way. I thought I would treat you to a piece of prose rather than the b...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman