Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Monday 7 August 2017

Chwaraeon Uniongyrchol



Hwhaa a Hullabaloo, dyma ni eto yn amddiffyn yr iaith yn erbyn cyfalafwyr anglophone. Rydym wastad ar y cam nol, wastad yn amddiffyn. Tarian Cymru?
Ydy o ddim yn amser i fod yn ymosodol ynglŷn â'r iaith tybed? Oni bai fod chi yn mynd i dalu pres mawr i gwmni cyhoeddusrwydd cyhoeddus o Lundain i wneud y Gymraeg yn fwy derbyniol i bobol sydd heb yr iaith sut yn y byd rydym yn mynd i gyrraedd y filiwn erbyn 2050 dywed? Dydi'r softly softly approach yma ddim yn mynd i weithio. A ydy o'n amser i fod yn gas ac yn fileinig gyda'r iaith? Gwrthod siarad Saesneg o gwbl. Os dydyn nhw ddim am drafferthu dysgu iaith ni pam ddylwn ni siarad iaith nhw. Iaith ein Gormeswyr after all! Iaith ddeiseb y Ring of Iron yn Fflint? A ydyn ni fel cenedl wedi bod yn rhy barod i droi at y Saesneg? Dwi yn un o'r gwaethaf, dwi yn cyfadde’ a dwi yn tristau am gymaint o sothach a rwtsh Saesneg dwi yn rhannu, it's the go to language of choice cariad if you want to get on. Beth am wersylloedd iaith i oedolion yng Nglan-llyn a Llangrannog ble mae Cymry yn tynni llyw i'r iaith a gwireddi chwedl y twristiaid ac yn mynd i drefi glan mor ac yn dechrau siarad Cymraeg gyda’i gilydd o flaen estronwyr? Mae fy nhad yn cofio fod yn Llandudno yn nhridegau'r ganrif ddiwethaf a Chymro yn gweiddi ar Dwristiaid neu Fewnfudwyr "You have no right in our country" mewn acen gref y Gogledd. Yn Llandudno o bob man. Erbyn hyn ar y Costa Del Crime fuasa'r esgyd ar y troed arall a fasa’r Saeson yn deud " You have no right speaking Welsh in your own Country" fel gwelwyd yn Chwaraeon Uniongyrchol ym Mangor. Tynnu blewyn o drwyn y Cymry maen nhw chi ac maent yn llwyddo bob tro. Mae'r ymateb yn nerthol ond pisio yn y gwynt rydym yn gwneud oherwydd dim ond aros am y digwyddiad nesaf ydan ni. Beth am i ni'r Cymry creu stŵr ag agor busnesau ble mae'r iaith Saesneg yn cael ei gwahardd. Cafes a Thafarndai yn drefi Glan Mor ble mae 'No English Language Rule'. Dwi di ddeud o blaen fod y Cymry ddi Gymraeg, ein cyd dinasyddion sydd ddim yn siarad Cymraeg yn waeth na'r Saeson. Passive Aggressive di'r Cymry! "Let's ope it dies out of its own accord" ydy mantra hwy. Ydan ni wir yn sylweddoli pa mor anodd ydy o i ddysgu'r iaith ddadleuol yma? Ddysgu iaith i fod yn amddiffynnol amdano fo? Faswn ni yn reight awyddus i ddechrau'r 'Apartheid Cafe' yn Aberystwyth ble fydd neb yn cael yr hawl i siarad Saesneg. Hardly the best business model in the world cariad ond ar ddiwedd y dydd cyfalafiaeth sydd a fydd yn lladd y Gymraeg oni bai fod ni yn dweud enough a digon yn uchel ac yn aml.     

No comments:

Post a Comment

Fruity old fruit bats

  Hello my fruity old fruit bats! That is a term of endearment by the way. I thought I would treat you to a piece of prose rather than the b...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman