Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Wednesday 7 February 2018

Ymwthiwr


Ymwthiwr



Dwi'n deffro bob bore gyda syniad, am ddarn o farddoniaeth sâl

Ag heddiw roedd hi mwy na chael a chal.

Pwl o euogrwydd yn fy ngafael a chwarae gyda fy ngwar,

mae rhaid i ti sgrifennu yn 'Wenglish' i ddangos dy ddoniau pal.

'Ffrind' dwi'n galw fy hunan, oherwydd mae dyddiau hunan casineb di ru,

yn wir yr, wedi cael y gorau ohono i.

Dwi'n trydar fel dyn gwallgof, dwi'n edrych ar Instagram man a man

Weplyfr, Pinterest ag e byst, bach yn embarrassing i ddyn hanner cant.

Dwi hyd yn oed yn defnyddio emojis 

Gyd dwi yn wneud di lladd amser,

llenwi'r bwlch, y gofod lle dyle Duw

ond mae fe yn gwybod gwell na neb, y poen meddwl, y loes byw.

Mae bod yn rhan o genedl hanner a hanner yn creu gofid

mae ceisio gwneud rhywbeth amdano jest yn rhoi halen ar friw.

Dwi'n siŵr fod gyda chi well i wneud na ddarllen hen sgrifennu fel rhain

ond dwi'n gweld o bobol sydd yn ymweld â fy mlog maent yn dod 'nôl again and again.

Oh diar dwi fel y dyn yna o'r Gogledd, yr un oedd y Queen's Bodyguard.

i gymharu â Dai Davies dwi'n teimlo yn dipyn o bard.

Dwi'n teimlo fel real 'Interloper' yn yr hen wlad i chi'n galw home.

Ydy o yn bosib dioddef o hiraeth yn sbïo ar luniau cymerwyd o drone?

Oherwydd dyna sut dwi'n gweld yr hen Gymru,

fel dyn uwchben y clouds,

yn edrych i lawr ar fy nghyfoedion a fy nagrau yn disgyn fel glaw.

Perthynas, plant a phriodi all seems to be part of the gem ond dwi'n dal allan am rywbeth arall.

Look met! We can't all be the same.

Mae rhai yn canu am y pererin, rhai am y deryn, y dryw

Dwi'n cerdded heibio drws tafarn yng Nghaerfyrddin a chyd dwi'n gallu gwyntio di 💩

a dyna beth fydd yn digwydd dydd Sadwrn

yn Twickers, yr hen rosyn HQ

fydd dynion mor foliog â finnau yn berwi llawn tan fel y ddraig

ei gobeithion am hunan balchder yn dibynnu ar y bel wrth ei thraed.

Taswn ni gyd yn deffro un bore a deud na ni

"Enuff is enuff mae fy nghenedl a fy ngwerth fel unigolyn yn bwysicach na 'all this false stuff"

Ond ni'n gwybod taw breuddwyd di hynny a blwyddyn nesaf yr un fydd y cam

Ond a fydd Carwyn ag Adam dal wrthi yn mynd ben ben, fflam wrth fflam?

Tase e nhw yn gallu dadlau am rywbeth mwy pwysig na cholli cyfarfod neu tri

efallai basa pethau yn edrych yn well i ni gyd a fi.

Beth bynnag di 'Interloper' yn Gymraeg dyna sut dwi di deimlo ers oes pys

fel rhyw alien wedi dod i lawr i 'no man's land'

ond heddiw dwi ar dipyn o frys.




No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman