Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Sunday 1 November 2015

Coward of the County



Yn y Tafarn uchod tua 1984/85 mi wnes i roi'r gan 'Coward of the County' ymlaen tua chwech i saith gwaith un ar ôl y llall ar y Juke Box ar y wal wrth chwarae gem o ddarts gyda fy hen ffrind Seimon. Mi roeddwn wedi teithio o Ruthun i weld ffilm yn yr Astra ac wedyn yn teimlo ein bod yn dynion yn 18 oed aethon mewn i'r 'Load of Mischief'. Tafarn Beicwyr oedd o yn ymyl y bont rheilffordd a dwi ddim yn gwybod beth ddaeth drostoi ond dwi'n meddwl fy mod eisiau herio'r Beicwyr. Roedd Seimon a fi yn hogiau digon swil a Seimon dal fel yna fel oedolyn ond erbyn hyn dwi'n ceisio cuddio'r swildod yma gydag ymatebion cegog a heriol. Dwi ddim yn siŵr beth oedd gennai yn erbyn y Beicwyr, gweld nhw efallai fel pobol galed a fi'n canu gan 'Kenny Rogers' fel rhyw fath o anthem i'r 'underdog' ond na fe. Meddwl o ni heddiw am y teimlad o gael dy fygwth. Mae 'na fygythiadau mawr yn ein cymdeithas. Bygythiad Cyfalafiaeth a bygythiad Nadolig yn nesáu. Rhywbeth anifeilaidd ydy'r teimlad o israddoldeb, teimlad sydd yn perthyn yn hanesyddol i ddiffyg hyder a hunan casineb. Pam ddylwn ni teimlo fel yna a pam roeddwn yn teimlo nôl yn yr wythdegau na herio'r sefydliad oedd yr unig ffordd ymlaen. Os dwi'n cofio'n iawn yr unig ateb gaethon ni gan y Beicwyr oedd 'ochenaid fawr' o rwystredigaeth pan ddaeth y gan ymlaen am y seithfed tro. Dwi'n meddwl y noson honno mi wnes i fy mhwynt ond ers hynny dwi dal wedi bod yn ceisio profi fo yn erbyn y sefydliad 'concretaidd' sydd yn cyhwfan trostan ni byth a beunydd.   


No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman