Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Monday 5 December 2016

Merched Dyfnaint





Meddyliais i’m hun fel roeddwn ar bererindod yn y De Orllewin pa mor batriarchaidd a ddynol oedd mudiadau cenedlaethol ‘Mae hen wlad fy nhadau’ ‘Meibion Cernyw’ fel enghraifft. The Fatherland. Ar ôl gweld baner Dyfnaint yn cyhwfan yn y gwynt yn Plymouth a Caerwysg tybed a oedd na mudiad cenedlaethol o’r enw ‘Merched Dyfnaint’? Mi roedd gyda ni ‘Ferched Beca' yng Nghymru ond dynion wedi gwisgo fyny fel merched roedd y rhain. Mi wyddom yn hanesyddol am ferched Comin Greenham, am y Asociación Madres de Plaza de Mayo Argentina ac am ferched y Kurdiaid yn brwydro yn erbyn ISIL a Thwrci ar hyn o bryd. Mae Dyfnaint yn sir arbennig a tybed tasa na mudiad gwleidyddol benywaidd yn dod o’r Sir fasa mwy yn y Westminster Bubble yn cymryd sylw o’r darn cysglyd yma o’r Deyrnas Ranedig. Sylwais fod yna Siop Heddwch yng Nghaerwysg. The Campaign for Nuclear Disarmament gyda’r haul yn gwenu yn y canol.    


A oes gyda ni rhyw fath o strategaeth tybed tasa na rhyw fath o Fukushima yn digwydd yn Ewrop. Fydd cryn dipyn o bryder ynglŷn â chynlluniau'r llywodraeth am Wylfa B a Hinkley C. Pobol Gwlad yr Ia fydd yn ei chael hi a dalgylch de Cymru tuasa na rhyw anffawd yn Hinkley. Ar hyn o bryd mae 'na glawr mawr yn cael ei rhoi dros weddillion Chernobyl i gadw'r ymbelydredd rhag gollwng. Fersiwn gwledydd mawr o frwsio newyddion drwg dan y carped. Mae pobol heddychlon ei natur yn gryn bryderus am y ffaith bod Trump yn y sedd fawr yn Washington, Erdogan yn Nhwrci, Netanyahu yn Israel a Putin a’i fys ar y botwm coch ond rydym wedi bod yn y fan hyn o blaen yn do gyda’r rhyfel oer. A fydd rhaid i ni adael o fyny i’r merched protestio eto er ein rhan? Mewn cyfnod ôl Cristnogaeth a secular a tybed a’i symudiadau paganaidd, hippy, teithwyr yr oes newydd fydd yn ail atgyfnerthu i warchod ein natur amhrisiadwy. Mae rhaid i rywun dweud yn glir ac yn gryno fod digon yw digon. Gawn weld beth ddigwyddith gyda'r North Dakota Pipeline. Maent wedi rhoi taw arno fo am y tro beth bynnag. Efallai fod Cyfalafiaeth yn tyfu cydwybod? Na mae cyfalafiaeth fel cell cancr yn atgyfnerthu ar ôl pob llwyddiant ond beth rydym yn gweld yn y byd ydy Fasgaith yn cymryd lle cyfalafiaeth. Maent wedi rhannu'r un gwely yn hanesyddol beth bynnag. Amser arddengys unwaith eto yn anffodus.  


No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman