Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Thursday 30 November 2017

Cyffes






Mi wnes i ofyn i'm nhad os oedd o wedi clywed un o'r hen bregethwyr erioed yn gweiddi allan 'rhag eich cywilydd chi" ac na oedd ei ymateb. Felli, rhyw fath o stereoteip dwi wedi rhoi ar weinidogion yr efengyl ond dim heb reswm. Y ddau orthrwm mwyaf o fy llencyndod oedd y capel ag yr ysgol. Un yn Gymraeg ag un yn hollol Saesneg ei naws â'i iaith "You gorra siarad Saesneg if you wanna get on" anaye? Dim yr efengyl nag y gweinidogion oedd y broblem ond y ffaith fod y capel 'in the round',  

"Thomas Williams built it in a style influenced by Emrys ap Iwan's stay in France. It is said to be one of the two remaining round chapels in Wales (although strictly its shape is best described as extended half-round)" 

felli yn lle wynebu'r gweinidog a'r blaenoriaid yn y set fawr roeddech yn wynebu eich cymdogion ag eich gelynion oherwydd hyd yn oed pryd hynny roeddech ddim yn gwybod pwy oedd pwy "Halt who goes there? Friend or Foe?" "Well that all depends" chwedl Jessica Rabbit. Yn fy arddegau cynnar mi roeddwn yn fachgen drwg, yn dwyn pethau o siopau, mwy allan o ddrygioni na 'malicious intent'. Unwaith wnaeth criw o'r ysgol hollol Saesneg gyda fi fel ei arweinydd dorri fewn i glwb bowls ble oedd fy nhad yn aelod ag yfed y pop oedd ar gael mewn crets, 'Cambrian Pop'. Roedd y bowlwyr yn talu tua 12c i dorri syched. Yn anffodus i mi wnaeth aelod o'r capel fy ngweld i yn arwain yr 'Hole in the Wall' gang a deud wrth fy nhad ag mi ddaeth yn stori a all wedi llenwi'r papur bro a thudalen blaen 'Y Goleuad'. Dyna ddigon o 'clues' i chi ym mha dref ogleddol oedd hyn. Felli bob bore Sul ar ôl y 'digwyddiad' roedd rhaid i mi gerdded i'm set o flaen y gynulleidfa, o flaen fy ngwell ac i'r dydd hwn dwi dal yn cael 'issues' o gwmpas cael fy meirniadu oherwydd yn las lanc roeddwn yn teimlo fod y pentref, y dref a'r capel i gyd yn fy meirniadu. Maent yn deud fod yn cymryd pentref i godi plentyn ac mae o'n cymryd rheolau'r pentref yna i dorri fo hefyd. Edrych yn ôl efallai roedd yn anorfod faswn yn beni fyny mewn carchar ar ôl dechrau mor gynnar ar fy nhaith bechadurus. Oherwydd dim ond un cam bach ydy mynd o dorri mewn i glwb bowls a dwyn ei pop i gerdded mewn i fanc a bygwth nhw tase e nhw ddim yn rhoi fy mhres i fi. Felli dyn canol oed erbyn hyn gyda phroblem gydag awdurdod  ag y sefydliad sydd yn sgrifennu hwn yn ei 'Wenglish' orau i geisio dallt y dalltings yn de. Diolch am ddarllen.   

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman