Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Saturday 25 November 2017

Cywilydd a Chydwybod




Ar sodlau dyletswyddau a disgwyliadau mae cywilydd a chydwybod yn dod. Unrhyw un sydd wedi cael ei fagu i fynychu Capel yn gyfarwydd iawn â'r ffenomena yma sydd yn mynd gyda'i gilydd fel ceffyl a chert neu gariad a phriodas. "Rhag eich cywilydd chi" fasa rhai o'r hen bregethwyr yn gweiddi allan teswch chi wedi pechu yn rhyw ffordd. Mae'r pellter rhwng y pulpud a'r gynulleidfa yn gallu gwneud y geiriau yma swnio yn fwy pwerus. Cyfiethiad fasa 'Forshame' neu 'Shame on you' ond cyfieithiad llythrenonol i un sydd wedi cael ei boddi yn yr iaith Saesneg buasa "Between you and your shame" yn cymeryd yn ganiataol felli fod gan bawb cywilydd o'r groth? Yn debyg i'r Catholigion ar 'Pechu Gwreiddiol'. Pam fod Pysgotwr Siarcod y Cymry yn gwastraffu ei amser yn meddwl am bethau fel hyn? Well yn y mis diwethaf yn y bowlen pysgodyn aur sydd yn cael ei adnabod fel y Senedd fe welwyd cywilydd a chydwybod yn cael ei chwarae allan mewn sefyllfa Carwyn a Carl. Heb adnabod y ddau fasa rhywun yn deud fod Carl wedi dioddef o ormod o gywilydd a Carwyn wedi dioddef o ddiffyg cydwybod. Mae'n syndod i ynrhyw sinig fel fi fod unrhyw wleidydd gyda chywilydd na chydwybod o gwbl. Croen caled maent yn arddangos ar yr arwynebedd. Ond nid 'act' ydy bron popeth mewn bywyd. Ond beth fydd yr 'Actau' nesaf yn ein bywydau cymunedol? Neu ydyn ni dal yn mwydro ymlaen yn ein ffordd ol Thatcher sef y cwlt o 'unigoliaeth'. Rydym wedi gweld cwymp yn seren unigoliaeth yn ddiweddar gyda phardduo enwau enwogion. Mae glitz a glitter Hollywood wedi colli dipyn o'i sglein ag roedd 'na ryw deimlad yn yr ymwybyddiaeth gymunedol fod na balchder neu oleua rhyddhad fod hwn wedi digwydd. Symud cydbwysedd neu gyfantoledd cymdeithas nol tuag at y canol. Pŵer a thrachwant oedd graidd y broblem tybed neu ddiffyg hunan barch ar ran y dynion yma. Y dynion yma gafodd ei alw yn fwystfilod yn ffeindio fo yn anodd iawn i garu ei hun o oedran ifanc ac wedyn tyfu rhyw fath o neurosis gafodd ei ystofi gan ei sefyllfa bywyd. Mae yn hawdd iawn collfarnu oherwydd dyna'r ffordd rydym ni wedi cael ein cyflyri ein hunan. Ydy o yn syndod wedyn pam mae gymaint o bobol yn glwm i 'unigoliaeth' oherwydd bod nhw yn reddfol yn gwybod beth sydd yn orau iddynt ar sail ag ar gost i gymdeithas. Pwy sydd ar fai yn y fan hyn? Yr unigolyn yn tyfu fyny o'r groth, neu'r gymdeithas mae o yn tyfu fyny ynddi? A gewch chi'r ateb i hyn ar Blog y Pysgotwr Siarcod tybed?    

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman